top of page

Ein trefn arferol

Mae ein diwrnodau wedi eu hysbrydoli gan y tymhorau ac rydym wrth ein boddau yn croesawu eiliadau anhygoel mewn natur. Rydym yn dilyn rhaglen sefydlog ar gyfer amseroedd bwyd a gorffwys er budd ein holl Archwilwyr Bychain.

Dechrau’n raddol…

Mae ein diwrnodau’n cychwyn am 8yb gyda chroeso cynnes a sgwrs gyda’n rhieni wrth iddynt adael eu plant. Gweinir brecwast am 8.15am. Fel gyda’n holl brydau bwyd, mae brecwast yn achlysur cymdeithasol iawn ac rydym yn annog ein Harchwilwyr Bychain i helpu i baratoi’r bwyd.

Bore Da Fyd!

Gyda brecwast wedi ei glirio i ffwrdd, rydym yn dechrau’r dydd mewn modd cerddorol!

Caneuon actol, cyd-ganu ac arbrofi gydag offerynnau; o fabanod bach i blant mawr, rydym oll wrth ein boddau’n sboncio a chanu. Gorffennwn gyda sgwrs fer am beth yr hoffai pawb ei wneud y diwrnod hwnnw.

Awn i archwilio...

Beth bynnag fo’r tywydd, cawn hwyl gyda’n gilydd!

Mae’n amser gwisgo hetiau ac eli haul (neu ddillad ac esgidiau glaw) a mynd allan i’r awyr agored am rai anturiaethau.

Mae safle 2 erw Archwilwyr Bychain yn orlawn o gemau natur. P’un a yw’r plant yn tasgu yn y nant; yn adeiladau lloches yn y goedwig, neu’n rhedeg ar ôl ieir bach yr hâf yn y ddôl, bydd gwenu a chwerthin yn dilyn.

Mae gan ein hardal allanol caeedig amrywiaeth ardderchog o chwarae synhwyraidd yn cynnwys tywod, dŵr ac adeiladu.

Byrbrydau wrth fynd

Rydym yn caru antur a chael ein byrbrydau boreol wrth fynd ymlaen. Caiff dwylo eu glanhau’n drwyadl ac eisteddwn i gyd i lawr ar y borfa, neu o dan goeden, i lenwi’n boliau yn barod am ychydig yn fwy o hwyl!

Dewch i ni gael gwneud crefftau

Mae celf a chrefft, a gysylltir gyda’r tymhorau a’n thema, yn ffordd hyfryd o feithrin ein Harchwilwyr Bychain.

Boed y tu fewn neu’r tu allan, bydd plant yn datblygu eu sgiliau echddygol manwl; yn gwella cydsymud; adeiladu hyder; mynegi eu hunain, ac yn fwy pwysig na dim, yn cael hwyl!  

Seibiant prynhawn

Anogir ein plant i gymryd eu cysgad dyddiol (yn ein hystafell gwsg un pwrpas) yn ystod y gostyngiad naturiol mewn egni ar ôl cinio, ac i fwynhau gweithgareddau tawel, hamddenol ac amser rhydd.

Dyma ni'n mynd eto!

Wrth i’r prynhawn gyrraedd ei anterth byddwn fel arfer yn mynd allan i’r awyr agored eto am lawer mwy o archwilio, ymchwilio ac awyr iach.

Dyma ni'n mynd eto!

Wrth i’r prynhawn gyrraedd ei anterth byddwn fel arfer yn mynd allan i’r awyr agored eto am lawer mwy o archwilio, ymchwilio ac awyr iach.

Mynd am adre

Mae croeso i’n teuluoedd gasglu eu plant, unrhyw bryd rhwng 4yh-6yh. Bydd ein tîm yn rhoi gwybod i rieni am holl anturiaethau’r dydd ac yn barod i ateb unrhyw gwestiynau neu ymholiadau.

Mynd am adre

Mae croeso i’n teuluoedd gasglu eu plant, unrhyw bryd rhwng 4yh-6yh. Bydd ein tîm yn rhoi gwybod i rieni am holl anturiaethau’r dydd ac yn barod i ateb unrhyw gwestiynau neu ymholiadau.

bottom of page